RHAN 3CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA

Rheoliadau ynghylch codi taliadau am fagiau siopa

56Gwerthwyr nwyddau

(1)

Yn y Rhan hon, ystyr “gwerthwr nwyddau” yw person sy’n gwerthu nwyddau yng nghwrs busnes.

(2)

At ddibenion is-adran (1), mae person yn gweithredu yng nghwrs busnes os yw’r person⁠—

(a)

yn gweithredu unrhyw fusnes neu ymgymeriad, pa un a yw hynny ar gyfer elw ai peidio, neu

(b)

yn arfer unrhyw swyddogaethau o natur gyhoeddus.

(3)

Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan reoliadau bagiau siopa ynghylch personau sydd i’w hystyried, neu nad ydynt i’w hystyried, yn werthwyr mewn perthynas â nwyddau.

(4)

Caiff rheoliadau bagiau siopa wneud darpariaeth sy’n gymwys i’r canlynol—

(a)

pob gwerthwr nwyddau,

(b)

gwerthwyr nwyddau penodedig,

(c)

gwerthwyr nwyddau o ddisgrifiad penodedig, neu

(d)

gwerthwyr o fewn paragraff (b) a gwerthwyr o fewn paragraff (c).

(5)

Caiff y rheoliadau bennu disgrifiad o werthwr drwy gyfeirio at—

(a)

y man y mae gwerthwr yn cyflenwi nwyddau ynddo neu ohono neu’r mannau y mae gwerthwr yn cyflenwi nwyddau ynddynt neu ohonynt;

(b)

y math o nwyddau a gyflenwir gan werthwr;

(c)

gwerth y nwyddau a gyflenwir gan werthwr;

(d)

trosiant gwerthwr neu unrhyw ran o’r trosiant;

(e)

trefniadau gwerthwr ar gyfer cymhwyso’r enillion net o’r tâl (gweler adran 57);

(f)

unrhyw ffactor arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol, pa un a yw’r ffactor hwnnw o’r un math â’r rhai a restrir ym mharagraffau (a) i (e) ai peidio.