RHAN 3CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA
Rheoliadau ynghylch codi taliadau am fagiau siopa
I155Gofyniad i godi tâl
1
Rhaid i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon (“rheoliadau bagiau siopa”).
2
Caiff rheoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol i werthwyr nwyddau godi tâl am gyflenwi bagiau siopa o’r disgrifiadau a bennir yn y rheoliadau o dan yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-adran (3).
3
Yr amgylchiadau yw bod y nwyddau—
a
yn cael eu gwerthu mewn man neu o fan yng Nghymru, neu
b
wedi eu bwriadu ar gyfer eu danfon i berson yng Nghymru.
4
Caiff y rheoliadau bennu disgrifiad o fag siopa drwy gyfeirio at y canlynol (er enghraifft)—
a
maint, trwch, gwneuthuriad, cyfansoddiad neu nodweddion eraill y bag,
b
y defnydd y bwriedir ei wneud o’r bag,
c
y pris a godir gan y gwerthwr nwyddau am gyflenwi’r bag (ac eithrio unrhyw dâl sy’n ofynnol gan y rheoliadau),
neu unrhyw gyfuniad o’r ffactorau hynny.
5
Caiff y rheoliadau—
a
pennu isafswm y tâl y mae’n rhaid ei godi am fag siopa, neu
b
darparu i’r swm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau.
6
Yn y Rhan hon, ystyr “y tâl” yw unrhyw dâl am gyflenwi bagiau siopa a wneir yn unol â rheoliadau bagiau siopa.