RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL

Rhagarweiniad

4Egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol

Yn y Rhan hon, “egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” yw—

(a)

rheoli mewn modd ymaddasol, drwy gynllunio, monitro, adolygu a, phan fo hynny’n briodol, newid gweithredoedd;

(b)

ystyried y raddfa ofodol briodol ar gyfer gweithredu;

(c)

hyrwyddo cydweithio a chydweithredu, a chyfranogi ynddynt;

(d)

gwneud trefniadau priodol i’r cyhoedd gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau;

(e)

ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol a chasglu tystiolaeth mewn perthynas â materion y ceir ansicrwydd yn eu cylch;

(f)

ystyried manteision a gwerth cynhenid adnoddau naturiol ac ecosystemau;

(g)

ystyried effeithiau tymor byr, tymor canolig a hirdymor gweithredoedd;

(h)

cymryd camau i atal niwed arwyddocaol i ecosystemau;

(i)

ystyried cydnerthedd ecosystemau ac yn benodol, yr agweddau a ganlyn—

(i)

amrywiaeth rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;

(ii)

y cysylltiadau rhwng ecosystemau ac oddi fewn iddynt;

(iii)

graddfa ecosystemau;

(iv)

cyflwr ecosystemau (gan gynnwys eu strwythur a’u gweithrediad);

(v)

gallu ecosystemau i addasu.