xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)gosod pob targed allyriadau interim ar lefel y maent wedi eu bodloni ei bod yn gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050, a
(b)gosod y gyllideb garbon ar gyfer pob cyfnod cyllidebol ar lefel y maent wedi eu bodloni ei bod yn gyson â chyrraedd—
(i)targed allyriadau 2050, a
(ii)y targed allyriadau interim ar gyfer unrhyw flwyddyn darged interim sydd o fewn y cyfnod cyllidebol hwnnw neu’n dod ar ei ôl.
(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, targed allyriadau interim neu gyllideb garbon oni bai bod o leiaf un o’r amodau a ganlyn wedi ei fodloni—
(a)eu bod wedi eu bodloni ei bod yn briodol gwneud y newid o ganlyniad i ddatblygiadau sylweddol o ran—
(i)gwybodaeth wyddonol ynghylch newid yn yr hinsawdd, neu
(ii)cyfreithiau neu bolisïau’r UE neu gyfreithiau neu bolisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd;
(b)bod y corff cynghori wedi argymell y newid;
(c)bod y newid yn gysylltiedig â darpariaeth a wneir o dan adran 35(1) neu 37(2).
(3)Wrth wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
(a)yr adroddiad diweddaraf o dan adran 8 ar gyflwr adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru,
(b)yr adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol diweddaraf o dan adran 11 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2),
(c)yr adroddiad diweddaraf (os oes un) o dan adran 23 o’r Ddeddf honno (adroddiad cenedlaethau’r dyfodol),
(d)gwybodaeth wyddonol ynghylch newid yn yr hinsawdd,
(e)technoleg sy’n berthnasol i newid yn yr hinsawdd, ac
(f)cyfreithiau a pholisïau’r UE a chyfreithiau a pholisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd (gan gynnwys cytundebau rhyngwladol ar fesurau a gynlluniwyd i gyfyngu ar gynnydd mewn tymheredd cyfartalog byd-eang).
(4)Mae adrannau 49 a 50 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyngor y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ei gael gan y corff cynghori, a’i ystyried, cyn gwneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050 neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 32 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(b)