RHAN 2NEWID YN YR HINSAWDD

Targedau allyriadau a chyllidebau carbon: y prif ddyletswyddau ar Weinidogion Cymru

32Targedau allyriadau a chyllidebau carbon: egwyddorion

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

gosod pob targed allyriadau interim ar lefel y maent wedi eu bodloni ei bod yn gyson â chyrraedd targed allyriadau 2050, a

(b)

gosod y gyllideb garbon ar gyfer pob cyfnod cyllidebol ar lefel y maent wedi eu bodloni ei bod yn gyson â chyrraedd—

(i)

targed allyriadau 2050, a

(ii)

y targed allyriadau interim ar gyfer unrhyw flwyddyn darged interim sydd o fewn y cyfnod cyllidebol hwnnw neu’n dod ar ei ôl.

(2)

Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, targed allyriadau interim neu gyllideb garbon oni bai bod o leiaf un o’r amodau a ganlyn wedi ei fodloni—

(a)

eu bod wedi eu bodloni ei bod yn briodol gwneud y newid o ganlyniad i ddatblygiadau sylweddol o ran—

(i)

gwybodaeth wyddonol ynghylch newid yn yr hinsawdd, neu

(ii)

cyfreithiau neu bolisïau’r UE neu gyfreithiau neu bolisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd;

(b)

bod y corff cynghori wedi argymell y newid;

(c)

bod y newid yn gysylltiedig â darpariaeth a wneir o dan adran 35(1) neu 37(2).

(3)

Wrth wneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050, neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)

yr adroddiad diweddaraf o dan adran 8 ar gyflwr adnoddau naturiol mewn perthynas â Chymru,

(b)

yr adroddiad tueddiadau tebygol y dyfodol diweddaraf o dan adran 11 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2),

(c)

yr adroddiad diweddaraf (os oes un) o dan adran 23 o’r Ddeddf honno (adroddiad cenedlaethau’r dyfodol),

(d)

gwybodaeth wyddonol ynghylch newid yn yr hinsawdd,

(e)

technoleg sy’n berthnasol i newid yn yr hinsawdd, ac

(f)

cyfreithiau a pholisïau’r UE a chyfreithiau a pholisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd (gan gynnwys cytundebau rhyngwladol ar fesurau a gynlluniwyd i gyfyngu ar gynnydd mewn tymheredd cyfartalog byd-eang).

(4)

Mae adrannau 49 a 50 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyngor y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru ei gael gan y corff cynghori, a’i ystyried, cyn gwneud rheoliadau sy’n newid targed allyriadau 2050 neu’n gosod neu’n newid targed allyriadau interim neu gyllideb garbon.