RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL

Cynlluniau arbrofol

23Pŵer CNC i gynnal cynlluniau arbrofol etc.

Yng Ngorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903), yn lle erthygl 10C rhodder—

“10CYmchwil a chynlluniau arbrofol

(1)

Caiff y Corff wneud trefniadau i gyflawni (boed gan y Corff neu gan bersonau eraill) ymchwil a chynlluniau arbrofol sy’n berthnasol i arfer ei swyddogaethau.

(2)

Caiff y Corff ddarparu cefnogaeth (drwy gyfrwng arian neu fel arall) ar gyfer ymchwil a chynlluniau arbrofol sy’n berthnasol i arfer ei swyddogaethau; ac mae paragraffau (2) a (3) o erthygl 10B yn gymwys i roi cymorth ariannol o dan y paragraff hwn.

(3)

Wrth gyflawni gweithgareddau o dan yr erthygl hon mewn perthynas â chadwraeth natur, rhaid i’r Corff roi sylw i unrhyw safonau cyffredin a sefydlwyd o dan adran 34(2)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 i’r graddau y maent yn gymwys i’r gweithgareddau.

(4)

Yn yr erthygl hon—

ystyr “cynllun arbrofol” (“experimental scheme”) yw cynllun sydd wedi ei ddylunio—

(a)

i ddatblygu neu i gymhwyso dulliau, cysyniadau neu dechnegau newydd neu addasedig, neu

(b)

i ddatblygu neu brofi cynigion ar gyfer newid rheoleiddiol;

mae “ymchwil” (“research”) yn cynnwys ymholiadau ac ymchwiliadau.”