Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

22Pŵer i atal dros dro ofynion statudol ar gyfer cynlluniau arbrofol

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ar gais CNC, caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau mewn perthynas â Chymru—

(a)sy’n eithrio unrhyw berson rhag gofyniad statudol y mae CNC yn gyfrifol amdano;

(b)sy’n llacio unrhyw ofyniad o’r fath wrth ei gymhwyso i berson;

(c)sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson y mae eithriad neu lacio gofyniad yn gymwys iddo gydymffurfio ag amodau a bennir yn y rheoliadau;

(d)sy’n addasu deddfiad mewn modd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol er mwyn gorfodi unrhyw ddarpariaeth a wneir yn rhinwedd paragraffau (a) i (c), neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath.

(2)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth sy’n tynnu ymaith neu’n addasu swyddogaeth un o Weinidogion y Goron a oedd yn arferadwy gan un o Weinidogion y Goron cyn 5 Mai 2011 oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio i’r ddarpariaeth.

(3)Cyn gwneud darpariaeth o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)bod wedi eu bodloni bod y ddarpariaeth yn angenrheidiol er mwyn galluogi cynnal cynllun arbrofol sy’n debygol o gyfrannu at reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol,

(b)bod wedi eu bodloni na fydd y rheoliadau’n cael yr effaith gyffredinol o gynyddu’r baich rheoliadol ar unrhyw berson, a

(c)ymgynghori—

(i)â phersonau y maent yn barnu bod darpariaeth yn y rheoliadau yn debygol o effeithio arnynt, a

(ii)â phersonau y maent yn barnu bod y cynllun arbrofol yn debygol o effeithio arnynt fel arall.

(4)Mae rheoliadau o dan is-adran (1) yn cael effaith yn ystod cyfnod a bennir yn y rheoliadau na chaiff fod yn hwy na thair blynedd.

(5)Ond caiff rheoliadau o dan is-adran (1), ar un achlysur yn unig, ymestyn y cyfnod y mae rheoliadau blaenorol o dan yr is-adran honno yn cael effaith am gyfnod o ddim mwy na thair blynedd o ddiwedd y cyfnod a bennwyd yn y rheoliadau blaenorol.

(6)Pan fo rheoliadau o dan is-adran (1) yn cael yr effaith sylweddol o ddirymu rheoliadau blaenorol o dan yr is-adran honno, a hynny’n unig, caniateir i’r rheoliadau gael eu gwneud heb gais gan CNC.

(7)Ac nid yw is-adran (3) yn gymwys i ddarpariaethau mewn rheoliadau o dan is-adran (1) sy’n dirymu rheoliadau blaenorol o dan yr is-adran honno (pa un a yw CNC yn gwneud cais am y dirymiad ai peidio).

(8)Pan fo darpariaeth wedi ei gwneud o dan is-adran (1) i alluogi cynnal cynllun arbrofol, rhaid i CNC—

(a)gwerthuso’r cynllun ar ba adeg bynnag y mae’n ystyried ei bod yn briodol, a

(b)cyhoeddi adroddiad sy’n nodi’r gwerthusiad ac yn disgrifio unrhyw gamau y mae CNC yn ystyried y dylid eu cymryd yng ngoleuni’r gwerthusiad.

(9)At ddibenion yr adran hon—

(a)ystyr gofyniad statudol yw gofyniad a osodir gan ddeddfiad;

(b)mae CNC yn gyfrifol am ofyniad statudol—

(i)os yw’n ofyniad i gydymffurfio â safon neu ofyniad a osodir gan CNC,

(ii)os yw’n ofyniad i gael trwydded neu awdurdodiad arall gan CNC cyn gwneud rhywbeth,

(iii)os yw’n ofyniad y caiff CNC ei orfodi, neu

(iv)os yw’n ofyniad sy’n gymwys i CNC ac sy’n ymwneud â’r modd y mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli neu eu defnyddio, neu at ba ddibenion y maent yn cael eu rheoli neu eu defnyddio.

(10)Yn yr adran hon, ystyr “cynllun arbrofol” yw cynllun a gynhelir o dan drefniadau a wneir gan CNC o dan erthygl 10C o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903).