RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL

Cytundebau rheoli tir

21Tir y Goron

(1)

Caiff yr awdurdod priodol ymrwymo i gytundeb rheoli tir mewn perthynas â buddiant yn nhir y Goron a ddelir gan y Goron neu ar ei rhan.

(2)

Nid yw cytundeb rheoli tir o ran unrhyw fuddiant arall yn nhir y Goron yn cael unrhyw effaith oni bai ei fod yn cael ei gymeradwyo gan yr awdurdod priodol.

(3)

Ystyr “tir y Goron” yw tir y mae buddiant ynddo—

(a)

yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl y Goron,

(b)

yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn,

(c)

yn perthyn i Ddugiaeth Cernyw, neu

(d)

yn perthyn i un o adrannau’r llywodraeth neu’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Mawrhydi at ddibenion un o adrannau’r llywodraeth.

(4)

Ystyr “yr awdurdod priodol”, mewn perthynas ag unrhyw dir—

(a)

os yw’r tir yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl y Goron, yw Comisiynwyr Ystad y Goron neu un o adrannau eraill y llywodraeth sy’n rheoli’r tir o dan sylw;

(b)

os yw’r tir yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, yw Canghellor y Ddugiaeth;

(c)

os yw’r tir yn perthyn i Ddugiaeth Cernyw, yw’r person hwnnw y mae Dug Cernyw, neu’r person sy’n meddu ar Ddugiaeth Cernyw am y tro, yn ei benodi;

(d)

os yw’r tir yn perthyn i un o adrannau’r llywodraeth neu’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Mawrhydi at ddibenion un o adrannau’r llywodraeth, yw’r adran honno.

(5)

Os oes unrhyw gwestiwn yn codi o dan yr adran hon ynghylch pa awdurdod yw’r awdurdod priodol mewn perthynas ag unrhyw dir, mae’r cwestiwn hwnnw i gael ei gyfeirio at y Trysorlys, sydd biau’r penderfyniad terfynol.