14Dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth neu gymorth arall i CNCLL+C
(1)Os yw CNC yn gofyn i gorff cyhoeddus ddarparu gwybodaeth i CNC sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer swyddogaethau o dan adran 8 neu 11, rhaid i’r corff cyhoeddus ddarparu’r wybodaeth oni bai bod y corff cyhoeddus wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.
(2)Os yw CNC yn gofyn i gorff cyhoeddus arfer ei swyddogaethau i ddarparu cymorth arall i CNC sy’n ofynnol gan CNC at ddiben arfer swyddogaethau o dan adran 8 neu 11, rhaid i’r corff cyhoeddus ddarparu’r cymorth oni bai bod y corff cyhoeddus yn ystyried y byddai gwneud hynny—
(a)yn anghydnaws â dyletswyddau’r corff cyhoeddus ei hun, neu
(b)yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r corff cyhoeddus.
(3)Mae’r dyletswyddau ar gorff cyhoeddus yn is-adrannau (1) a (2) hefyd yn ddyletswyddau ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ond nid ydynt ond yn gymwys i’r Comisiynydd os yw’r wybodaeth neu gymorth arall yn ofynnol er mwyn cynhyrchu adroddiad o dan adran 8 ar gyflwr adnoddau naturiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 14 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(a)