RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL

Gweithredu’r polisi cenedlaethol ar sail ardaloedd

14Dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddarparu gwybodaeth neu gymorth arall i CNC

(1)

Os yw CNC yn gofyn i gorff cyhoeddus ddarparu gwybodaeth i CNC sy’n ofynnol ganddo at ddiben arfer swyddogaethau o dan adran 8 neu 11, rhaid i’r corff cyhoeddus ddarparu’r wybodaeth oni bai bod y corff cyhoeddus wedi ei wahardd rhag ei darparu yn rhinwedd deddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

(2)

Os yw CNC yn gofyn i gorff cyhoeddus arfer ei swyddogaethau i ddarparu cymorth arall i CNC sy’n ofynnol gan CNC at ddiben arfer swyddogaethau o dan adran 8 neu 11, rhaid i’r corff cyhoeddus ddarparu’r cymorth oni bai bod y corff cyhoeddus yn ystyried y byddai gwneud hynny—

(a)

yn anghydnaws â dyletswyddau’r corff cyhoeddus ei hun, neu

(b)

yn cael effaith andwyol fel arall ar arfer swyddogaethau’r corff cyhoeddus.

(3)

Mae’r dyletswyddau ar gorff cyhoeddus yn is-adrannau (1) a (2) hefyd yn ddyletswyddau ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ond nid ydynt ond yn gymwys i’r Comisiynydd os yw’r wybodaeth neu gymorth arall yn ofynnol er mwyn cynhyrchu adroddiad o dan adran 8 ar gyflwr adnoddau naturiol.