RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL
Gweithredu’r polisi cenedlaethol ar sail ardaloedd
I113Canllawiau ynghylch gweithredu datganiadau ardal
1
Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i gorff cyhoeddus roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddo gan Weinidogion Cymru ynghylch camau y dylid eu cymryd i ymdrin â’r materion a bennir mewn datganiad ardal o dan adran 11(3).
2
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau y maent yn eu rhoi at ddibenion yr adran hon.