RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL
Gweithredu’r polisi cenedlaethol ar sail ardaloedd
12Cyfarwyddydau Gweinidogion Cymru i weithredu datganiadau ardal
1
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo corff cyhoeddus i gymryd y camau hynny y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn rhesymol ymarferol er mwyn ymdrin â’r materion a bennir mewn datganiad ardal o dan adran 11(3).
2
Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r corff cyhoeddus y maent yn bwriadu ei gyfarwyddo.
3
Pan roddir cyfarwyddyd i gorff cyhoeddus o dan yr adran hon, rhaid i’r corff gydymffurfio ag ef.
4
Ni chaiff cyfarwyddyd o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i gorff cyhoeddus wneud rhywbeth na chaniateir iddo ei wneud fel arall wrth arfer ei swyddogaethau.
5
Mewn perthynas â chyfarwyddyd o dan yr adran hon—
a
rhaid iddo gael ei gyhoeddi;
b
caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;
c
mae’n orfodadwy drwy orchymyn gorfodi ar gais gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan.