xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Yn adrannau 11 i 15, ystyr “corff cyhoeddus” yw unrhyw un o’r canlynol—
(a)cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
(b)Bwrdd Iechyd Lleol;
(c)yr Ymddiriedolaethau GIG a ganlyn—
(i)Iechyd Cyhoeddus Cymru;
(ii)Felindre;
(d)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(e)awdurdod tân ac achub yng Nghymru;
(f)[F1y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil];
(g)Cyngor Celfyddydau Cymru;
(h)Cyngor Chwaraeon Cymru;
(i)Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
(j)Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau drwy—
(a)ychwanegu person,
(b)tynnu person ymaith, neu
(c)diwygio disgrifiad o berson.
(3)Ond ni chaiff y rheoliadau—
(a)ond diwygio is-adran (1) drwy ychwanegu person os yw’r person hwnnw’n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus;
(b)ond diwygio’r is-adran honno drwy ychwanegu un neu ragor o Weinidogion y Goron os yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.
(4)Os yw’r rheoliadau’n diwygio is-adran (1) er mwyn ychwanegu person sydd â swyddogaethau o natur gyhoeddus a swyddogaethau eraill, nid yw adrannau 11 i 15 ond yn gymwys i’r person hwnnw mewn perthynas â swyddogaethau’r person hwnnw sydd o natur gyhoeddus.
(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)CNC,
(b)pob person y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei ychwanegu neu ei dynnu ymaith drwy’r rheoliadau, ac
(c)y personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 10(1)(f) wedi eu hamnewid (1.8.2024) gan Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (asc 1), a. 148(2), Atod. 4 para. 36 (ynghyd ag a. 19); O.S. 2024/806, ergl. 2(k)(xix) (ynghyd ag ergl. 28)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 mewn grym ar 21.5.2016, gweler a. 88(2)(a)