ATODLEN 2MÂN DDIWYGIADAU, DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU
RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)
10
(1)
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 11(3), yn lle’r geiriau ar ôl “nodau” rhodder “a bennir yn Trawsnewid ein byd: Agenda 2030 ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, a fabwysiadwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig gan benderfyniad A/Res/70/1 ar 25 Medi 2015”.
(3)
Yn adran 38(3), ar ôl paragraff (g) mewnosoder—
“(ga)
pob datganiad ardal o dan adran 11 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (os o gwbl) sy’n ymwneud ag unrhyw ran o ardal yr awdurdod lleol;”.