ATODLEN 1CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA: SANCSIYNAU SIFIL

Adennill costau

9

(1)

Os yw rheoliadau bagiau siopa yn gwneud darpariaeth o dan baragraff 4, gallant roi’r pŵer i weinyddwr i’w gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i berson y gosodir gofyniad yn ôl disgresiwn arno i dalu’r costau yr aed iddynt gan y gweinyddwr mewn perthynas â gosod y gofyniad yn ôl disgresiwn hyd at amser ei osod.

(2)

Yn is-baragraff (1), mae’r cyfeiriad at gostau yn cynnwys (ymysg pethau eraill)—

(a)

costau ymchwilio;

(b)

costau gweinyddu;

(c)

costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

(3)

Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan y paragraff hwn sicrhau, mewn unrhyw achos pan gyflwynir hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol talu costau—

(a)

bod yr hysbysiad yn pennu’r swm y mae’n ofynnol ei dalu;

(b)

y gallai fod yn ofynnol i’r gweinyddwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm hwnnw;

(c)

nad yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau yn atebol i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aed iddynt yn ddiangen;

(d)

y caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau apelio yn erbyn—

(i)

penderfyniad y gweinyddwr i osod y gofyniad i dalu costau;

(ii)

penderfyniad y gweinyddwr o ran swm y costau hynny.

(4)

Caiff darpariaeth o dan y paragraff hwn gynnwys y ddarpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff 8(1)(b) ac (c) a (2).