ATODLEN 1CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA: SANCSIYNAU SIFIL
Gofynion yn ôl disgresiwn: y weithdrefn
5
(1)
Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n gwneud darpariaeth o dan baragraff 4 sicrhau—
(a)
pan fo gweinyddwr yn bwriadu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn ar berson, bod rhaid i’r gweinyddwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”) sy’n cydymffurfio ag is-baragraff (2),
(b)
y caiff y person hwnnw wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r gweinyddwr mewn perthynas â’r bwriad i osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,
(c)
ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau o’r fath, bod rhaid i’r gweinyddwr benderfynu a yw am—
(i)
gosod y gofyniad yn ôl disgresiwn, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(ii)
gosod unrhyw ofyniad yn ôl disgresiwn arall y mae gan y gweinyddwr bŵer i’w osod o dan baragraff 4,
(d)
pan fo’r gweinyddwr yn penderfynu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn, bod yr hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) yn cydymffurfio ag is-baragraff (4), ac
(e)
y caiff y person y gosodir gofyniad yn ôl disgresiwn arno apelio yn erbyn y penderfyniad i’w osod.
(2)
Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)
y seiliau dros y cynnig i osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,
(b)
yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau,
(c)
o dan ba amgylchiadau na chaiff y gweinyddwr osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,
(d)
o fewn pa gyfnod, na chaiff fod yn llai na’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y ceir yr hysbysiad o fwriad, y caniateir gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau.
(3)
Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(c) gynnwys darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau hynny pan na chaniateir i’r gweinyddwr benderfynu gosod cosb ariannol benodedig.
(4)
Er mwyn cydymffurfio â’r is-baragraff hwn, rhaid i’r hysbysiad terfynol y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(d) gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)
y seiliau dros osod y gofyniad yn ôl disgresiwn,
(b)
pan fo’r gofyniad yn ôl disgresiwn yn gosb ariannol amrywiadwy—
(i)
sut y gellir talu,
(ii)
o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid talu, a
(iii)
unrhyw ddisgowntiau am dalu’n gynnar neu gosbau am dalu’n hwyr,
(c)
hawliau i apelio, a
(d)
canlyniadau methu â chydymffurfio.
(5)
Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1)(e) sicrhau bod yr hyn y caiff person apelio yn erbyn penderfyniad gweinyddwr ar ei sail yn cynnwys y canlynol—
(a)
bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)
bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)
yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;
(d)
yn achos gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol;
(e)
bod y penderfyniad yn un afresymol am unrhyw reswm arall.