ATODLEN 1CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA: SANCSIYNAU SIFIL

I14Gofynion yn ôl disgresiwn

1

Caiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr i osod, drwy hysbysiad, un gofyniad yn ôl disgresiwn neu ragor ar berson sy’n torri’r rheoliadau.

2

Ni chaiff y rheoliadau ond rhoi pŵer o’r fath mewn perthynas ag achos pan fo’r gweinyddwr wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod y toriad wedi digwydd.

3

At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “gofyniad yn ôl disgresiwn” yw—

a

gofyniad i dalu i weinyddwr gosb ariannol o’r swm hwnnw y caiff y gweinyddwr benderfynu arno, neu

b

gofyniad i gymryd y camau hynny y caiff gweinyddwr eu pennu, o fewn y cyfnod hwnnw y caiff y gweinyddwr ei bennu, er mwyn sicrhau nad yw’r toriad yn parhau neu’n digwydd eto.

4

Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “cosb ariannol amrywiadwy” (“variable monetary penalty”) yw gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(a), ac

  • ystyr “gofyniad yn ôl disgresiwn nad yw’n un ariannol” (“non-monetary discretionary requirement”) yw gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(b).

5

Rhaid i reoliadau bagiau siopa, mewn perthynas â phob math o doriad o’r rheoliadau y caniateir gosod cosb ariannol amrywiadwy mewn perthynas ag ef—

a

pennu uchafswm y gosb y caniateir ei gosod am doriad o’r math hwnnw, neu

b

darparu i’r uchafswm hwnnw gael ei benderfynu yn unol â’r rheoliadau.

6

Ni chaiff y rheoliadau ganiatáu gosod gofynion yn ôl disgresiwn ar berson ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anwaith.