ATODLEN 1CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA: SANCSIYNAU SIFIL
I12Cosbau ariannol penodedig
1
Caiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr i osod, drwy hysbysiad, gosb ariannol benodedig ar berson sy’n torri’r rheoliadau.
2
Ni chaiff y rheoliadau ond rhoi pŵer o’r fath mewn perthynas ag achos pan fo’r gweinyddwr wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd fod y toriad wedi digwydd.
3
At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “cosb ariannol benodedig” yw gofyniad i dalu cosb i weinyddwr o swm a bennir yn y rheoliadau neu a benderfynir yn unol â hwy.
4
Ni chaiff y rheoliadau ddarparu ar gyfer gosod cosb ariannol benodedig o fwy na £5,000.