ATODLEN 1CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA: SANCSIYNAU SIFIL
I117Atal dros dro
1
Pan fo rheoliadau bagiau siopa yn rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r gweinyddwr—
a
pan fo’r pŵer yn bŵer i osod cosb ariannol benodedig, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiad o fwriad pellach y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw, a
b
pan fo’r pŵer yn bŵer i osod gofyniad yn ôl disgresiwn, i beidio â chyflwyno unrhyw hysbysiad o fwriad pellach y cyfeirir ato ym mharagraff 5(1)(a) mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw.
2
Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau bagiau siopa os ydynt wedi eu bodloni bod y gweinyddwr wedi methu â gwneud y canlynol ar fwy nag un achlysur—
a
cydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd a osodir arno o dan yr Atodlen hon, neu yn rhinwedd yr Atodlen hon, mewn perthynas a thoriad o’r math hwnnw,
b
gweithredu’n unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd ganddo mewn perthynas â thoriad o’r math hwnnw (yn benodol, y canllawiau a gyhoeddwyd o dan baragraff 13), neu
c
gweithredu’n unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt ym mharagraff 15 neu ag egwyddorion arferion gorau eraill mewn perthynas â gorfodi toriad o’r math hwnnw.
3
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, ddirymu cyfarwyddyd a roddwyd ganddynt o dan is-baragraff (1) os ydynt wedi eu bodloni bod y gweinyddwr wedi cymryd y camau priodol i unioni’r methiant yr oedd y cyfarwyddyd hwnnw’n ymwneud ag ef.
4
Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-baragraff (1) neu (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
a
y gweinyddwr, a
b
y personau eraill hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
5
Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan y paragraff hwn, rhaid iddynt osod copi o’r cyfarwyddyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
6
Rhaid i’r gweinyddwr gymryd camau i ddwyn cyfarwyddyd o dan y paragraff hwn i sylw personau eraill y mae’r cyfarwyddyd yn debygol o effeithio arnynt; a rhaid iddo wneud hynny yn y fath fodd (os o gwbl) y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol.