ATODLEN 1CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA: SANCSIYNAU SIFIL
Cyhoeddi camau gorfodi
14
(1)
Pan fo rheoliadau bagiau siopa yn rhoi’r pŵer i weinyddwr osod sancsiwn sifil mewn perthynas â thoriad o’r rheoliadau, rhaid iddynt sicrhau bod rhaid i’r gweinyddwr gyhoeddi adroddiadau o bryd i’w gilydd sy’n pennu—
(a)
yr achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt, a
(b)
pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol benodedig, yr achosion y rhyddhawyd atebolrwydd rhag cosb ynddynt yn unol â pharagraff 3(1)(b).
(2)
Yn is-baragraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.
(3)
Nid oes angen i’r rheoliadau sicrhau’r canlyniad yn is-adran (1) mewn achosion pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n amhriodol gwneud hynny.