ATODLEN 1CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA: SANCSIYNAU SIFIL

Cyhoeddusrwydd ar gyfer gosod sancsiynau sifil

11

(1)

Caiff rheoliadau bagiau siopa roi’r pŵer i weinyddwr roi hysbysiad cyhoeddusrwydd i berson y gosodwyd sancsiwn sifil arno yn unol â’r rheoliadau.

(2)

Ystyr “hysbysiad cyhoeddusrwydd” yw hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person roi cyhoeddusrwydd i—

(a)

y ffaith y gosodwyd y sancsiwn sifil, a

(b)

yr wybodaeth arall honno a all gael ei phennu yn y rheoliadau,

yn y dull hwnnw a all gael ei bennu yn yr hysbysiad.

(3)

Caiff y rheoliadau ddarparu bod hysbysiad cyhoeddusrwydd—

(a)

yn pennu’r amser ar gyfer cydymffurfio â’r hysbysiad, a

(b)

yn ei gwneud yn ofynnol i’r person y rhoddir yr hysbysiad iddo ddarparu tystiolaeth o gydymffurfio i weinyddwr o fewn yr amser hwnnw y caniateir ei bennu yn yr hysbysiad.

(4)

Caiff y rheoliadau ddarparu, os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cyhoeddusrwydd, y caiff gweinyddwr—

(a)

rhoi cyhoeddusrwydd i’r wybodaeth y mae’n ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd iddi gan yr hysbysiad, a

(b)

adennill y costau o wneud hynny oddi wrth y person hwnnw.