Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

RHAN 8CYFFREDINOL

87Dehongli

Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” gan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad a gynhwysir yn unrhyw un o’r canlynol (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir)—

    (a)

    Deddf Seneddol;

    (b)

    Mesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

    (c)

    is-ddeddfwriaeth o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978 (p. 30) (gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf Seneddol neu Fesur neu Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru).

88Dod i rym

(1)Mae’r Rhan hon yn dod i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1 (rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol);

(b)Rhan 2 (newid yn yr hinsawdd);

(c)Rhan 5 (pysgodfeydd ar gyfer pysgod cregyn);

(d)adran 82 (diddymu gofynion i gyhoeddi);

(e)adran 84 (apelau yn erbyn ardollau draenio arbennig);

(f)adran 85 (pŵer mynediad);

(g)adran 86 (is-ddeddfau).

(3)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol—

(a)Rhan 3 (codi taliadau am fagiau siopa);

(b)Rhan 4 (casglu a gwaredu gwastraff);

(c)Rhan 6 (trwyddedu morol);

(d)adran 81 (pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol);

(e)adran 83 (prisio tir anamaethyddol).

(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)—

(a)pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud y ddarpariaeth drosiannol neu’r ddarpariaeth arbed honno mewn cysylltiad â dod i rym ddarpariaeth o fewn y Ddeddf hon y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.

89Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.