xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3CODI TALIADAU AM FAGIAU SIOPA

Gweinyddu a gorfodi

58Gweinyddu

(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa benodi person (“gweinyddwr”) i weinyddu darpariaeth a wneir gan y rheoliadau.

(2)Caniateir penodi mwy nag un person i fod yn weinyddwr.

(3)Caiff y rheoliadau roi pwerau i weinyddwr, neu osod dyletswyddau arno.

(4)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (3) yn cynnwys darpariaeth—

(a)sy’n gwneud addasiadau i unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys i’r gweinyddwr, neu

(b)i unrhyw ddeddfiad o’r fath fod yn gymwys, gydag addasiadau neu hebddynt, at ddibenion y rheoliadau.

(5)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at weinyddwr yn cynnwys person a benodir gan weinyddwr.

59Cadw a chyhoeddi cofnodion

(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol i gofnodion gael eu cadw mewn perthynas â thaliadau a godir gan werthwyr nwyddau am fagiau siopa (pa un a yw’r taliadau’n ofynnol o dan y rheoliadau ai peidio).

(2)Caiff y rheoliadau ei gwneud yn ofynnol—

(a)i’r cofnodion gael eu cyhoeddi, neu i’r wybodaeth arall honno y gellir ei phennu gael ei chyhoeddi, ar yr adegau hynny y gellir eu pennu ac yn y modd hwnnw y gellir ei bennu;

(b)i’r cofnodion gael eu cyflenwi, neu i’r wybodaeth arall honno y gellir ei phennu gael ei chyflenwi, ar gais ac yn y modd hwnnw y gellir ei bennu—

(i)i Weinidogion Cymru,

(ii)i weinyddwr, neu

(iii)i aelodau o’r cyhoedd.

(3)Caiff y rheoliadau (er enghraifft) ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi neu gyflenwi cofnodion neu wybodaeth sy’n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)y swm a dderbynnir gan werthwr nwyddau ar ffurf taliadau am fagiau siopa (pa un a yw hynny’n unol â’r rheoliadau neu fel arall);

(b)enillion gros neu net y gwerthwr o’r tâl;

(c)at ba ddibenion y defnyddiwyd yr enillion net o’r tâl.

(4)Caiff rheoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol hefyd gyhoeddi neu gyflenwi cofnodion neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r swm y mae person wedi ei dderbyn gan werthwr ar ffurf enillion net o’r tâl sydd i’w gymhwyso at ddibenion elusennol.

60Gorfodi

(1)Caiff rheoliadau bagiau siopa roi pwerau neu ddyletswyddau i weinyddwr neu osod pwerau neu ddyletswyddau arno i orfodi darpariaeth a wneir gan y rheoliadau.

(2)Caiff y rheoliadau (er enghraifft) roi pwerau i weinyddwr—

(a)i’w gwneud yn ofynnol dangos dogfennau neu ddarparu gwybodaeth, neu

(b)i holi gwerthwr nwyddau neu swyddogion neu gyflogeion gwerthwr.

(3)Caiff y rheoliadau hefyd roi pwerau i weinyddwr holi person y mae’r gweinyddwr yn credu’n rhesymol ei fod wedi derbyn unrhyw enillion net o’r tâl neu swyddogion neu gyflogeion person o’r fath.

(4)Rhaid i reoliadau bagiau siopa sy’n rhoi pŵer o fewn is-adran (2) gynnwys darpariaeth ar gyfer sicrhau nad yw’r pŵer yn cael ei arfer gan weinyddwr ond pan fo’r gweinyddwr yn credu’n rhesymol bod methiant wedi bod i gydymffurfio â gofyniad yn y rheoliadau.

61Sancsiynau sifil

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch sancsiynau sifil.