xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2NEWID YN YR HINSAWDD

Targedau a chyllidebau: cwmpas a phrif gysyniadau

33Cyfrif allyriadau net Cymru

(1)“Cyfrif allyriadau net Cymru” ar gyfer cyfnod yw’r swm a gyfrifir fel a ganlyn—

(a)penderfynu swm allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr am y cyfnod yn unol ag adran 34;

(b)tynnu swm yr unedau carbon a gredydir i gyfrif allyriadau net Cymru am y cyfnod;

(c)ychwanegu swm yr unedau carbon a ddidynnir o gyfrif allyriadau net Cymru am y cyfnod.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ynghylch y canlynol drwy reoliadau—

(a)o dan ba amgylchiadau y caniateir credydu unedau carbon i gyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod;

(b)o dan ba amgylchiadau y mae’n rhaid didynnu unedau carbon o gyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod;

(c)sut y mae hynny i gael ei wneud.

(3)Rhaid i’r rheoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer sicrhau bod unedau carbon sy’n cael eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod yn peidio â bod ar gael i’w gosod yn erbyn allyriadau eraill o nwy tŷ gwydr.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru osod terfyn, drwy reoliadau, ar swm net yr unedau carbon y caniateir gostwng cyfrif allyriadau net Cymru am gyfnod o ganlyniad i gymhwyso is-adran (1)(b) ac (c).

(5)Caiff y rheoliadau ddarparu nad yw unedau carbon o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau yn cyfrannu at y terfyn.

34Allyriadau net Cymru

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “allyriadau net Cymru” o nwy tŷ gwydr am gyfnod yw swm allyriadau Cymru o’r nwy hwnnw am y cyfnod, wedi ei ostwng yn ôl swm echdyniadau Cymru o’r nwy hwnnw am y cyfnod.

(2)Ystyr “allyriadau Cymru” o nwy tŷ gwydr yw—

(a)allyriadau o’r nwy hwnnw o ffynonellau yng Nghymru, a

(b)allyriadau o’r nwy hwnnw o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol sy’n cyfrif fel allyriadau Cymru yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 35.

(3)Ystyr “echdyniadau Cymru” o nwyon tŷ gwydr yw echdyniadau o’r nwy hwnnw o’r atmosffer o ganlyniad i ddefnydd tir yng Nghymru, newid mewn defnydd tir yng Nghymru neu weithgareddau coedwigaeth yng Nghymru.

(4)Rhaid i symiau allyriadau Cymru ac echdyniadau Cymru o nwy tŷ gwydr ar gyfer cyfnod gael eu penderfynu yn gyson ag arferion rhyngwladol adrodd ar garbon, cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

35Allyriadau Cymru o hedfan a morgludiant rhyngwladol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau i allyriadau o nwy tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol a morgludiant rhyngwladol gyfrif fel allyriadau Cymru o’r nwy.

(2)Caiff y rheoliadau—

(a)pennu gweithgareddau sydd i’w hystyried yn hedfan rhyngwladol neu’n forgludiant rhyngwladol;

(b)pennu o dan ba amgylchiadau, ac i ba raddau, y mae allyriadau o nwy tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol i gyfrif fel allyriadau Cymru o’r nwy hwnnw;

(c)pennu o ba gyfnod (pa un a yw yn y gorffennol neu yn y dyfodol) y mae allyriadau o nwy tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol i gyfrif fel allyriadau Cymru o’r nwy hwnnw;

(d)gwneud darpariaeth ynghylch sut y mae allyriadau o nwy tŷ gwydr o hedfan rhyngwladol neu forgludiant rhyngwladol i gael eu hystyried wrth benderfynu ar allyriadau Cymru o’r nwy am y flwyddyn waelodlin ar gyfer y nwy hwnnw;

(e)gwneud darpariaeth wahanol ar gyfer gwahanol nwyon tŷ gwydr a gwahanol gyfnodau.

36Unedau carbon

(1)Yn y Rhan hon, ystyr “uned garbon” yw uned o fath a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru ac sy’n cynrychioli—

(a)gostyngiad mewn swm o allyriadau nwy tŷ gwydr,

(b)echdyniad o swm o nwy tŷ gwydr o’r atmosffer, neu

(c)swm o allyriadau nwy tŷ gwydr a ganiateir o dan gynllun neu drefniant sy’n gosod terfyn ar allyriadau o’r fath.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer cynllun—

(a)i gofrestru unedau carbon neu gadw cyfrif ohonynt fel arall, neu

(b)i sefydlu a chynnal cyfrifon y caniateir i Weinidogion Cymru gadw unedau carbon ynddynt, a’u trosglwyddo rhyngddynt.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth, yn benodol, i gynllun cyfredol gael ei addasu at y dibenion hyn (gan gynnwys drwy ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r cynllun cyfredol).

(4)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)i benodi person (“gweinyddwr”) i weinyddu’r cynllun;

(b)sy’n rhoi swyddogaethau i’r gweinyddwr neu’n gosod swyddogaethau arno at y diben hwnnw (gan gynnwys drwy ddiwygio unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gweinyddwr);

(c)sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru roi canllawiau neu gyfarwyddydau i’r gweinyddwr;

(d)sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddirprwyo’r gwaith o gyflawni unrhyw un neu ragor o’r swyddogaethau a roddir i Weinidogion Cymru neu a osodir arnynt gan y rheoliadau;

(e)i’w gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n defnyddio’r cynllun wneud taliadau (y penderfynir eu symiau gan y rheoliadau neu oddi tanynt) tuag at y gost o’i weithredu.

37Nwyon tŷ gwydr

(1)At ddibenion y Rhan hon, mae pob un o’r canlynol yn “nwy tŷ gwydr”—

(a)carbon deuocsid;

(b)methan;

(c)ocsid nitraidd;

(d)hydrofflworocarbonau;

(e)perfflworocarbonau;

(f)sylffwr hecsafflworid;

(g)nitrogen trifflworid.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (1) drwy reoliadau er mwyn ychwanegu nwy neu ddiwygio disgrifiad o nwy.

38Y waelodlin

(1)Yn y Rhan hon, ystyr y “waelodlin” yw swm cyfanredol allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr ar gyfer y blynyddoedd gwaelodlin.

(2)Y flwyddyn waleodlin ar gyfer pob nwy tŷ gwydr yw—

(a)carbon deuocsid: 1990;

(b)methan: 1990;

(c)ocsid nitraidd: 1990;

(d)hydrofflworocarbonau: 1995;

(e)perfflworocarbonau: 1995;

(f)sylffwr hecsafflworid: 1995;

(g)nitrogen trifflworid: 1995.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (2) drwy reoliadau er mwyn—

(a)pennu’r flwyddyn waelodlin ar gyfer nwy tŷ gwydr a ychwanegir gan reoliadau o dan adran 37(2);

(b)addasu’r flwyddyn waelodlin ar gyfer nwy tŷ gwydr.

(4)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth o dan is-adran (3)(b) onid ydynt wedi eu bodloni ei bod yn briodol gwneud hynny o ganlyniad i ddatblygiadau sylweddol yn nghyfreithiau neu bolisïau’r UE neu gyfreithiau neu bolisïau rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd.