RHAN 1RHEOLI CYNALIADWY AR ADNODDAU NATURIOL
Cyffredinol
I124Pŵer i ddiwygio cyfnodau ar gyfer paratoi a chyhoeddi dogfennau
1
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth sy’n newid erbyn pa bryd y mae’n rhaid paratoi neu gyhoeddi’r dogfennau a ganlyn—
a
adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol neu ddrafft o adroddiad o’r fath;
b
y polisi adnoddau naturiol cenedlaethol.
2
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth ar ffurf diwygiad i’r Rhan hon.
3
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag CNC.
I225Rheoliadau o dan y Rhan hon
1
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Rhan hon i’w arfer drwy offeryn statudol.
2
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Rhan hon yn cynnwys pŵer—
a
i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol;
b
i wneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
3
Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Rhan hon gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
4
Nid yw offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau sy’n cael yr effaith sylweddol o ddirymu rheoliadau a wnaed o dan adran 22(1), a hynny’n unig, yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn is-adran (3), ond rhaid iddo gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl cael ei wneud.
I326Dehongliad cyffredinol o’r Rhan hon
Yn y Rhan hon—
mae “adnoddau naturiol” (“natural resources”) i’w ddehongli yn unol ag adran 2;
ystyr “bioamrywiaeth” (“biodiversity”) yw amrywiaeth organeddau byw, boed ar lefel geneteg, rhywogaeth neu ecosystem;
ystyr “CNC” (“NRW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
ystyr “cytundeb rheoli tir” (“land management agreement”) yw cytundeb o dan adran 16;
mae i “egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” (“principles of sustainable management of natural resources”) yr ystyr a roddir gan adran 4;
mae i “polisi adnoddau naturiol cenedlaethol” (“national natural resources policy”) yr ystyr a roddir gan adran 9;
mae i “rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol” (“sustainable management of natural resources”) yr ystyr a roddir gan adran 3;
mae “tir” (“land”) yn cynnwys tir wedi ei orchuddio â dŵr.
I427Mân ddarpariaethau a darpariaethau canlyniadol
1
Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y Rhan hon i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903) yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchmynion pellach o dan adrannau 13 a 15 o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 (p. 24) sy’n diwygio neu’n dirymu’r ddarpariaeth a wneir gan y diwygiadau hynny.
2
Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn darparu ar gyfer mân ddiwygiadau, diwygiadau canlyniadol a diddymiadau sy’n ymwneud â’r Rhan hon.