Adran 83 – Prisio tir anamaethyddol er mwyn dosrannu costau draenio
310.Caiff costau bwrdd draenio mewnol nad ydynt yn cael eu diwallu gan gyllid grant eu diwallu yn rhannol gan ardrethi draenio y mae meddianwyr tir amaethyddol yn yr ardal yn eu talu, ac yn rhannol gan ardollau arbennig a godir ar yr awdurdodau lleol perthnasol (a rhaid iddynt hwy gynnwys yr ardollau yn eu cyllidebau Treth Gyngor). Pennir y gyfran o wariant bwrdd draenio mewnol a ddiwellir o’r ardrethi draenio a’r ardollau arbennig drwy gymharu cyfanswm gwerth y tir amaethyddol yn ei ardal â chyfanswm gwerth y tir anamaethyddol.
311.O ran tir amaethyddol, mae Pennod 2 o Ran 4 o Ddeddf Draenio Tir 1991 yn nodi’r dull prisio y mae’n rhaid ei ddefnyddio at y dibenion hyn. O ran tir anamaethyddol, mae adran 37(5) yn darparu, os cafodd y tir ei gynnwys ar restr ardrethu neu restr brisio ym 1990, bod ei werth i’w gyfrifo drwy gyfeirio at y gwerth a nodir ar y rhestr honno.
312.Nid yw adran 37(5) yn gyfredol bellach, ac nid yw rhai o’r rhestrau y mae’n cyfeirio atynt ar gael erbyn hyn. Mae adran 83 o’r Ddeddf yn diwygio adran 37 er mwyn rhoi darpariaethau newydd ar gyfer Cymru mewn perthynas â phrisio tir anamaethyddol yn lle is-adran (5).
313.Maent yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno rheoliadau sy’n nodi trefniadau newydd ar gyfer pennu gwerth tir anamaethyddol a ddefnyddir i gyfrifo ardrethi draenio ac ardollau arbennig.