Adran 81– Sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol
300.Mae adran 81 o’r Ddeddf yn mewnosod adrannau 26B - 26D i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Bydd yr adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu pwyllgor i ddarparu cyngor iddynt ar faterion yn ymwneud â rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol neu’r Flood and Coastal Erosion Committee fydd enw’r pwyllgor.
301.Corff cynghori fydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol a’i gylch gwaith fydd darparu cyngor i Weinidogion Cymru ar faterion yn ymwneud â rheoli’r risg o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru e.e. llifogydd o ddŵr wyneb, prif afonydd, cyrsiau dŵr arferol, llifogydd arfordirol ac erydu arfordirol.
302.Mae adrannau 26C a 26D yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud darpariaethau, drwy reoliadau, ynglŷn ag aelodaeth a thrafodion y pwyllgor a thaliadau i aelodau a’r cadeirydd.
303.Mae’r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn disodli Rheoli Perygl Llifogydd Cymru, sef y pwyllgor llifogydd ac arfordirol rhanbarthol yng Nghymru a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Mae adran 81(2) yn diddymu Rheoli Perygl Llifogydd Cymru yn ffurfiol.