Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 3 – Codi Taliadau am Fagiau Siopa

Adran 56 – Gwerthwyr nwyddau

219.Mae adran 56 yn darparu y caiff y rheoliadau bagiau siopa fod yn gymwys naill ai i bob gwerthwr nwyddau neu i fathau penodol o werthwr (gweler is-adran (3)). Mae’n caniatáu i’r rheoliadau gymhwyso darpariaethau i werthwyr a enwir ac i werthwyr a ddynodir drwy gyfeirio at ffactorau penodedig (a rhoddir enghreifftiau o’r ffactorau y caniateir eu pennu yn is-adran (4)).

220.Mae is-adran (1) yn diffinio “gwerthwyr nwyddau”, at ddiben y rheoliadau, fel person sy’n gwerthu nwyddau yng nghwrs busnes. Gall gwerthwr gynnwys, er enghraifft, fanwerthwyr y stryd fawr, archfarchnadoedd, masnachwyr stryd neu farchnad neu unrhyw berson sy’n rhedeg busnes sy’n gwerthu nwyddau ar y rhyngrwyd. Nid yw’r term yn cynnwys unrhyw bersonau sy’n gwerthu eu nwyddau eu hunain yn breifat yn achlysuro, mewn sêl cist car neu ar safle gwerthu neu ocsiwn ar y rhyngrwyd er enghraifft, ac ni chaniateir i’r rheoliadau fod yn gymwys iddynt.

221.Mae is-adran (2) yn egluro nad yw’n angenrheidiol bod y busnes a weithredir gan werthwr nwyddau yn fenter fasnachol er mwyn gwneud elw (felly gallai gwerthwr nwyddau fod yn elusen) a bod corff sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus yn gweithredu yng nghwrs busnes.