Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 2 – Newid yn yr hinsawdd

 Adran 33 – Cyfrif allyriadau net Cymru

158.Mae is-adran (1) yn diffinio cyfrif allyriadau net Cymru fel swm cyfanredol allyriadau net Cymru ar ôl tynnu unrhyw unedau carbon a gredydir i’r cyfrif am y cyfnod ac ychwanegu unrhyw unedau carbon a ddidynnir o’r cyfrif am y cyfnod.

159.Mae is-adran (2) yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddiffinio mewn rheoliadau pa unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru a’u didynnu ohono, a sut y gellir gwneud hynny.

160.Mae is-adran (3) yn darparu bod rhaid i reoliadau a wneir o dan is-adran (2) sicrhau, pan ddefnyddir unedau carbon i leihau cyfrif allyriadau net Cymru, nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ogystal i’w gosod yn erbyn allyriadau eraill o le arall. Fel arall, gallai hyn arwain at “gyfrif dwbl”.

161.Mae is-adran (4) yn darparu bod rhaid i reoliadau gyfyngu ar y graddau y gellir defnyddio unedau carbon i leihau cyfrif allyriadau net Cymru.