RHAN 1LL+CRHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2LL+CCOFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU

Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriadLL+C

[F19APrawf person addas a phriodol: trefniadau ariannol sy’n ymwneud â gwasanaethau plant o dan gyfyngiadLL+C

(1)At ddibenion y prawf person addas a phriodol yn adran 9, mae trefniant ariannol yn dod o fewn yr adran hon os yw’n drefniant gyda neu er lles person perthnasol—

(a)sy’n afresymol neu’n anghymesur o dan yr holl amgylchiadau, a

(b)a all (o ganlyniad) danseilio gallu’r darparwr gwasanaeth i ddilyn ei amcanion neu ei ddibenion (ac o ran hynny, gwele‍r adran 6A(3)).

(2)Wrth benderfynu a ymrwymwyd i drefniant ariannol o’r fath, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—

(a)maint neu werth y trefniant a’i ddiben (gan gynnwys i ba raddau y mae’n ymwneud â darparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad);

(b)maint neu werth y trefniant o gymharu â faint o incwm y mae’r darparwr gwasanaeth yn ei gael o ddarparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad;

(c)y gyfran o gyfanswm incwm y darparwr gwasanaeth sy’n dod o ddarparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad;

(d)llesiant plant sy’n cael gofal a chymorth (yn narpariaeth y gwasanaeth plant o dan gyfyngiad).

(3)At ddibenion adran 9(7)(e) a’r adran hon—

(a)mae “ymrwymo i drefniant ariannol” yn cynnwys gwneud taliad neu ddyfarnu unrhyw fudd (uniongyrchol neu anuniongyrchol) sydd â gwerth ariannol, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny (ac mae cyfeiriadau at drefniant ariannol i’w darllen fel petaent yn cynnwys cyfres o drefniadau);

(b)ystyr “person perthnasol” yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)cyflogai, gweithiwr neu swyddog i’r darparwr gwasanaeth;

(ii)person cysylltiedig â chyflogai, gweithiwr neu swyddog i’r darparwr gwasanaeth;

(iii)pan fo’r darparwr gwasanaeth yn rhan o grŵp o bersonau sydd o dan berchnogaeth ar y cyd neu reolaeth ar y cyd, unrhyw berson o fewn y grŵp hwnnw.]