RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad
F19APrawf person addas a phriodol: trefniadau ariannol sy’n ymwneud â gwasanaethau plant o dan gyfyngiad
(1)
At ddibenion y prawf person addas a phriodol yn adran 9, mae trefniant ariannol yn dod o fewn yr adran hon os yw’n drefniant gyda neu er lles person perthnasol—
(a)
sy’n afresymol neu’n anghymesur o dan yr holl amgylchiadau, a
(b)
a all (o ganlyniad) danseilio gallu’r darparwr gwasanaeth i ddilyn ei amcanion neu ei ddibenion (ac o ran hynny, gweler adran 6A(3)).
(2)
Wrth benderfynu a ymrwymwyd i drefniant ariannol o’r fath, rhaid rhoi sylw i’r canlynol—
(a)
maint neu werth y trefniant a’i ddiben (gan gynnwys i ba raddau y mae’n ymwneud â darparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad);
(b)
maint neu werth y trefniant o gymharu â faint o incwm y mae’r darparwr gwasanaeth yn ei gael o ddarparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad;
(c)
y gyfran o gyfanswm incwm y darparwr gwasanaeth sy’n dod o ddarparu’r gwasanaeth plant o dan gyfyngiad;
(d)
llesiant plant sy’n cael gofal a chymorth (yn narpariaeth y gwasanaeth plant o dan gyfyngiad).
(3)
At ddibenion adran 9(7)(e) a’r adran hon—
(a)
mae “ymrwymo i drefniant ariannol” yn cynnwys gwneud taliad neu ddyfarnu unrhyw fudd (uniongyrchol neu anuniongyrchol) sydd â gwerth ariannol, ond nid yw wedi ei gyfyngu i hynny (ac mae cyfeiriadau at drefniant ariannol i’w darllen fel petaent yn cynnwys cyfres o drefniadau);
(b)
ystyr “person perthnasol” yw unrhyw un o’r canlynol—
(i)
cyflogai, gweithiwr neu swyddog i’r darparwr gwasanaeth;
(ii)
person cysylltiedig â chyflogai, gweithiwr neu swyddog i’r darparwr gwasanaeth;
(iii)
pan fo’r darparwr gwasanaeth yn rhan o grŵp o bersonau sydd o dan berchnogaeth ar y cyd neu reolaeth ar y cyd, unrhyw berson o fewn y grŵp hwnnw.