RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Adfer cofnod i’r gofrestr
99Adolygu ataliad dros dro o’r hawl i wneud cais i adfer
(1)
Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—
(a)
panel apelau cofrestru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 98(4) mewn cysylltiad â P (ataliad dros dro o’r hawl i wneud cais i adfer), a
(b)
atgyfeiriad i adolygu’r cyfarwyddyd wedi ei wneud gan y cofrestrydd o dan adran 97(5)(b).
(2)
Rhaid i banel apelau cofrestru adolygu’r cyfarwyddyd, a chaiff ei gadarnhau neu ei ddirymu.
(3)
Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P o benderfyniad y panel yn sgil adolygiad.
(4)
Pan fo’r panel yn cadarnhau’r cyfarwyddyd, rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi hysbysiad i P—
(a)
o resymau’r panel dros gadarnhau’r cyfarwyddyd, a
(b)
o’r hawl i apelio o dan adran 104.