99Adolygu ataliad dros dro o’r hawl i wneud cais i adferLL+C
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo—
(a)panel apelau cofrestru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 98(4) mewn cysylltiad â P (ataliad dros dro o’r hawl i wneud cais i adfer), a
(b)atgyfeiriad i adolygu’r cyfarwyddyd wedi ei wneud gan y cofrestrydd o dan adran 97(5)(b).
(2)Rhaid i banel apelau cofrestru adolygu’r cyfarwyddyd, a chaiff ei gadarnhau neu ei ddirymu.
(3)Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P o benderfyniad y panel yn sgil adolygiad.
(4)Pan fo’r panel yn cadarnhau’r cyfarwyddyd, rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi hysbysiad i P—
(a)o resymau’r panel dros gadarnhau’r cyfarwyddyd, a
(b)o’r hawl i apelio o dan adran 104.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 99 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 99 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)