RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Adfer cofnod i’r gofrestr

98Achosion adfer

(1)

Pan fo’r cofrestrydd wedi atgyfeirio cais i adfer cofnod person (“P”) i ran o’r gofrestr i banel apelau cofrestru o dan adran 97(4), rhaid i’r panel—

(a)

dyfarnu bod y cofnod mewn cysylltiad â P i gael ei adfer i’r rhan berthnasol o’r gofrestr, neu

(b)

dyfarnu na chaniateir i’r cofnod mewn cysylltiad â P gael ei adfer i’r rhan honno o’r gofrestr.

(2)

Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P o ddyfarniad y panel.

(3)

Os yw’r panel yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (1)(b) rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi hysbysiad i P—

(a)

o’i resymau dros wneud y dyfarniad, a

(b)

o unrhyw hawl i apelio mewn cysylltiad â’r dyfarniad.

(4)

Os yw—

(a)

P wedi gwneud dau neu ragor o geisiadau o dan adran 97(2) i adfer i’r un rhan o’r gofrestr, a

(b)

panel apelau cofrestru yn gwrthod, ar yr ail gais neu unrhyw gais dilynol, adfer i’r rhan honno o’r gofrestr o dan is-adran (1)(b),

caiff y panel gyfarwyddo na chaiff P wneud ceisiadau pellach o dan adran 97(2) i adfer i’r rhan honno o’r gofrestr.

(5)

Os yw’r panel apelau cofrestru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (4), rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i P—

(a)

o’r cyfarwyddyd hwnnw, a

(b)

o hawl P i apelio o dan adran 104.

(6)

Os yw panel apelau cofrestru yn gwneud dyfarniad o dan is-adran (1)(a) rhaid i’r panel gyfarwyddo’r cofrestrydd i adfer cofnod P i’r gofrestr.