xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Adfer cofnod i’r gofrestrLL+C

97Adfer yn dilyn achos addasrwydd i ymarferLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn dileu o dan—

(a)adran 138(9) (gwaredu yn dilyn canfyddiad o amhariad);

(b)adran 152(8)(e) (penderfyniadau yn dilyn adolygiad o ymgymeriadau);

(c)adran 153(9)(d) (penderfyniadau yn sgil adolygiad o orchmynion cofrestru amodol);

(d)adran 154(8)(d) (penderfyniadau yn sgil adolygiad o orchmynion atal dros dro).

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), caiff y person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef wneud cais i’r cofrestrydd i’r cofnod mewn cysylltiad â’r person gael ei adfer i’r gofrestr (ond gweler adran 98(4) am ddarpariaeth ynghylch yr amgylchiadau pan gaiff panel apelau cofrestru atal person rhag gwneud cais o’r fath).

(3)Ni chaiff y person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef—

(a)gwneud cais i adfer cofnod cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y gwnaed y gorchymyn, neu

(b)gwneud mwy nag un cais i adfer cofnod i’r gofrestr o fewn cyfnod o 12 mis.

(4)Rhaid i’r cofrestrydd atgyfeirio cais a wneir o dan is-adran (2) i banel apelau cofrestru er mwyn dyfarnu arno (gweler adran 98).

(5)Pan fo panel apelau cofrestru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 98(4) (ataliad dros dro o’r hawl i wneud cais i adfer)—

(a)caiff y person y rhoddir y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef wneud cais i’r cofrestrydd i’r cyfarwyddyd gael ei adolygu, a

(b)rhaid i’r cofrestrydd atgyfeirio’r cais i banel apelau cofrestru er mwyn dyfarnu arno.

(6)Ni chaiff person wneud cais o dan is-adran (5)(a)—

(a)cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y rhoddir y cyfarwyddyd, neu

(b)o fewn y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â dyddiad cais blaenorol am adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 97 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 97 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)