RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Adfer cofnod i’r gofrestr

96Pŵer i adfer cofnod ar gofrestr

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo cofnod wedi ei ddileu o’r gofrestr o dan—

(a)

adran 92 (dileu drwy gytundeb);

(b)

adran 94 (cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniol).

(2)

Caiff y cofrestrydd, ar gais y person yr oedd y cofnod yn ymwneud ag ef, adfer y cofnod i’r gofrestr.

(3)

Ni chaiff y cofrestrydd ganiatáu cais i adfer o dan yr adran hon ond os yw wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion cofrestru a bennir yn adran 83(2).

(4)

Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i’r ymgeisydd o ran a yw ei gais wedi ei ganiatáu.

(5)

Os nad yw’r cais i adfer wedi ei ganiatáu rhaid i’r cofrestrydd hefyd roi i’r ymgeisydd hysbysiad—

(a)

o’r rhesymau dros y penderfyniad, a

(b)

o unrhyw hawl i apelio mewn cysylltiad â’r penderfyniad.