RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Dileu cofnodion o’r gofrestr
94Cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniol
(1)
Os yw’r cofrestrydd wedi ei fodloni bod cofnod mewn rhan o’r gofrestr, neu fod anodiad i gofnod, wedi ei gynnwys ar y gofrestr ar sail gwybodaeth anwir neu gamarweiniol, caiff y cofrestrydd ddileu’r cofnod neu’r anodiad o’r gofrestr.
(2)
Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo’r cofrestrydd yn meddwl—
(a)
y gall cofnod, neu anodiad i gofnod, yn y gofrestr fod wedi ei gynnwys ar y gofrestr ar sail gwybodaeth anwir neu gamarweiniol,
(b)
y gall fod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, ac
(c)
y gall fod angen gorchymyn interim er mwyn amddiffyn y cyhoedd.
(3)
Caiff y cofrestrydd atgyfeirio’r mater i banel gorchmynion interim.
(4)
Pan fo’r cofrestrydd yn penderfynu dileu cofnod mewn cysylltiad â pherson o’r gofrestr o dan yr adran hon, rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i’r person—
(a)
o’r penderfyniad,
(b)
o’r rhesymau dros y penderfyniad, ac
(c)
o’r hawl i apelio a roddir gan adran 101.