xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Dileu cofnodion o’r gofrestrLL+C

94Cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniolLL+C

(1)Os yw’r cofrestrydd wedi ei fodloni bod cofnod mewn rhan o’r gofrestr, neu fod anodiad i gofnod, wedi ei gynnwys ar y gofrestr ar sail gwybodaeth anwir neu gamarweiniol, caiff y cofrestrydd ddileu’r cofnod neu’r anodiad o’r gofrestr.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo’r cofrestrydd yn meddwl—

(a)y gall cofnod, neu anodiad i gofnod, yn y gofrestr fod wedi ei gynnwys ar y gofrestr ar sail gwybodaeth anwir neu gamarweiniol,

(b)y gall fod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, ac

(c)y gall fod angen gorchymyn interim er mwyn amddiffyn y cyhoedd.

(3)Caiff y cofrestrydd atgyfeirio’r mater i banel gorchmynion interim.

(4)Pan fo’r cofrestrydd yn penderfynu dileu cofnod mewn cysylltiad â pherson o’r gofrestr o dan yr adran hon, rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad i’r person—

(a)o’r penderfyniad,

(b)o’r rhesymau dros y penderfyniad, ac

(c)o’r hawl i apelio a roddir gan adran 101.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 94 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 94 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)