RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Dileu cofnodion o’r gofrestr

93Marwolaeth person cofrestredig

(1)

Pan fo person sydd wedi ei gofrestru mewn rhan o’r gofrestr wedi marw, rhaid i’r cofrestrydd o fewn y cyfnod penodedig ddileu’r cofnod sy’n ymwneud â’r person hwnnw o’r gofrestr.

(2)

Yn is-adran (1) ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu drwy reolau a wneir gan GCC.