Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Valid from 03/04/2017

93Marwolaeth person cofrestredigLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo person sydd wedi ei gofrestru mewn rhan o’r gofrestr wedi marw, rhaid i’r cofrestrydd o fewn y cyfnod penodedig ddileu’r cofnod sy’n ymwneud â’r person hwnnw o’r gofrestr.

(2)Yn is-adran (1) ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu drwy reolau a wneir gan GCC.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 93 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)