RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Dileu cofnodion o’r gofrestr
92Dileu drwy gytundeb
(1)
Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer dileu cofnod o ran o’r gofrestr ar gais y person y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
(2)
Rhaid i reolau o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)
yr amgylchiadau pan gaiff person wneud cais i gofnod gael ei ddileu o ran o’r gofrestr;
(b)
ym mha fodd y caniateir i gais gael ei wneud;
(c)
y meini prawf y caniateir i benderfyniad i ganiatáu neu i wrthod cais gael ei wneud drwy gyfeirio atynt;
(d)
y weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad o benderfyniad mewn cysylltiad â chais.
(3)
Caiff y rheolau awdurdodi GCC neu ei gwneud yn ofynnol i GCC gyfeirio cais o dan yr adran hon at banel addasrwydd i ymarfer er mwyn dyfarnu arno.