xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer dileu cofnod o ran o’r gofrestr ar gais y person y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
(2)Rhaid i reolau o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a)yr amgylchiadau pan gaiff person wneud cais i gofnod gael ei ddileu o ran o’r gofrestr;
(b)ym mha fodd y caniateir i gais gael ei wneud;
(c)y meini prawf y caniateir i benderfyniad i ganiatáu neu i wrthod cais gael ei wneud drwy gyfeirio atynt;
(d)y weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad o benderfyniad mewn cysylltiad â chais.
(3)Caiff y rheolau awdurdodi GCC neu ei gwneud yn ofynnol i GCC gyfeirio cais o dan yr adran hon at banel addasrwydd i ymarfer er mwyn dyfarnu arno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 92 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 92 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)