RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys ar y gofrestr

91Cynnwys y gofrestr

(1)

Rhaid i gofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â pherson ddangos yr wybodaeth a ganlyn⁠—

(a)

y dyddiad pan gofnodwyd y person ar y gofrestr;

(b)

cymwysterau’r person i ymarfer gwaith o’r math y mae ei gofrestriad yn ymwneud ag ef;

(c)

unrhyw gymwysterau eraill, gwybodaeth arall neu brofiad arall a ragnodir sy’n berthnasol i gofrestriad y person;

(d)

unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer a ragnodir.

(2)

Caiff GCC drwy reolau ei gwneud yn ofynnol i’r cofrestrydd, neu ei awdurdodi i—

(a)

cynnwys mewn cofnod yn y gofrestr wybodaeth nad yw’n ofynnol yn rhinwedd is-adran (1);

(b)

dileu o gofnod yn y gofrestr wybodaeth o fath a bennir yn y rheolau.

(3)

Ni chaiff rheolau o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i gofrestrydd neu awdurdodi’r cofrestrydd i gofnodi gwybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl person.