Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

[F190ARheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i berson esempt (“X”) sydd wedi ei sefydlu'n gyfreithlon fel rheolwr gofal cymdeithasol mewn Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol ac eithrio'r Deyrnas Unedig.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os oes gan X fudd rheoliad 12 o'r Rheoliadau Systemau Cyffredinol mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth o wasanaethau fel rheolwr gofal cymdeithasol gan X yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol (os yw X wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth o wasanaethau fel rheolwr gofal cymdeithasol gan X).

(3)Mae hawlogaeth gan X i gael ei gofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o'r gofrestr, a rhaid i'r cofrestrydd roi effaith i'r hawlogaeth.

(4)Os oes gan X hawlogaeth o dan is-adran (3) i gael ei gofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o'r gofrestr ond nad yw wedi ei gofrestru yn y rhan honno, mae X i'w drin fel pe bai wedi ei gofrestru yn y rhan honno.

(5)Mae hawlogaeth X o dan is-adran (3) yn dod i ben os yw X yn peidio, pa un ai o ganlyniad i weithredu rheoliad 24 o'r Rheoliadau Systemau Cyffredinol neu fel arall, â chael budd rheoliad 12 o'r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â'r ddarpariaeth o wasanaethau fel rheolwr gofal cymdeithasol gan X yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol.

(6)Os yw X wedi ei gofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o'r gofrestr, caiff y cofrestrydd dynnu X oddi ar y rhan honno os daw hawlogaeth X o dan is-adran (3) i ben o ganlyniad i weithredu is-adran (5).

(7)Nid yw is-adrannau (1) i (6) yn atal adrannau 92 i 94 neu Ran 6 (gweithwyr gofal cymdeithasol: addasrwydd i ymarfer) rhag bod yn gymwys i bersonau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o'r gofrestr.]