Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

90Gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i berson esempt (“V”) sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon fel gweithiwr cymdeithasol mewn Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os oes gan V fudd rheoliad [F112] o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol gan V yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol (os yw V wedi cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol gan V).

(3)Mae hawlogaeth gan V i gael ei gofrestru yn y rhan [F2gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad ] o’r gofrestr, a rhaid i’r cofrestrydd roi effaith i’r hawlogaeth.

(4)Os oes gan V hawlogaeth o dan is-adran (3) i gael ei gofrestru yn y rhan [F2gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad] o’r gofrestr ond nad yw wedi ei gofrestru yn y rhan honno, mae V i’w drin fel pe bai wedi ei gofrestru yn y rhan honno.

(5)Mae hawlogaeth V o dan is-adran (3) yn dod i ben os yw V yn peidio, pa un ai o ganlyniad i weithredu rheoliad [F324] o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol neu fel arall, â chael budd rheoliad [F412] o’r Rheoliadau hynny mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o wasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol gan V yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac achlysurol.

(6)Os yw V wedi ei gofrestru yn y rhan [F2gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad] o’r gofrestr, caiff y cofrestrydd dynnu V oddi ar y rhan honno os daw hawlogaeth V o dan is-adran (3) i ben o ganlyniad i weithredu is-adran (5).

(7)Nid yw is-adrannau (1) i (6) yn atal adrannau 92 i 94 o’r Rhan hon neu Ran 6 (addasrwydd i ymarfer) rhag bod yn gymwys i bersonau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan [F2gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad] o’r gofrestr.

(8)At ddibenion Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon—

  • mae i “gwladolyn”, mewn perthynas â Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol, yr un ystyr â “national” yng Nghytuniadau’r UE, ond nid yw’n cynnwys person nad yw, yn rhinwedd Erthygl 2 o Brotocol Rhif 3 (Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) i’r Cytuniad Ymaelodi, i gael budd darpariaethau’r UE sy’n ymwneud â rhydd symudiad personau a gwasanaethau;

  • ystyr “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol” (“relevant European State”) yw Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir;

  • ystyr “person esempt” (“exempt person”) yw—

    (a)

    gwladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol ac eithrio’r Deyrnas Unedig,

    (b)

    gwladolyn o’r Deyrnas Unedig sy’n ceisio ymgymryd â gwaith cymdeithasol perthnasol yng Nghymru [F5, neu ymgymryd â gwaith fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru,] yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, neu

    (c)

    person nad yw’n wladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol ond sydd â hawlogaeth, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, i beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na gwladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol o ran yr hawl i ymgymryd â gwaith cymdeithasol perthnasol yng Nghymru [F6, neu o ran yr hawl i ymgymryd â gwaith fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru] ;

  • [F7ystyr “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yw Rheoliadau'r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 90 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 90 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)