RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad
9Person addas a phriodol: ystyriaethau perthnasol
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys i unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru o ran a yw—
(a)
darparwr gwasanaeth,
(b)
person sy’n gwneud cais i fod yn ddarparwr gwasanaeth,
(c)
unigolyn cyfrifol, neu
(d)
person sydd i’w ddynodi’n unigolyn cyfrifol,
yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth neu, yn ôl y digwydd, unigolyn cyfrifol.
(2)
Wrth wneud penderfyniad o’r fath rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r holl faterion sy’n briodol yn eu barn hwy.
(3)
Yn benodol, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw dystiolaeth sy’n dod o fewn is-adrannau (4) i (8).
(4)
Mae tystiolaeth yn dod o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person wedi—
(a)
cyflawni—
(i)
unrhyw drosedd sy’n ymwneud â thwyll neu anonestrwydd arall, trais, arfau tanio neu gyffuriau neu unrhyw drosedd sydd wedi ei rhestru yn Atodlen 3 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (p.42) (troseddau sydd â gofynion hysbysu),
(ii)
trosedd o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir odani,
(iii)
trosedd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) neu reoliadau a wneir odani, neu
(iv)
unrhyw drosedd arall sy’n berthnasol ym marn Gweinidogion Cymru, neu
(b)
aflonyddu ar rywun, neu wahaniaethu’n anghyfreithlon, ar sail unrhyw nodwedd sy’n nodwedd warchodedig o dan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15), neu wedi erlid person arall yn groes i’r Ddeddf honno, wrth gynnal unrhyw fusnes neu mewn cysylltiad â hynny.
(5)
Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon—
(a)
os yw’n dangos bod unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â’r person neu a oedd yn gysylltiedig â’r person gynt (pa un ai ar sail bersonol, ar sail gwaith neu ar sail arall) wedi gwneud unrhyw un neu ragor o’r pethau a nodir yn is-adran (4), a
(b)
os ymddengys i Weinidogion Cymru fod y dystiolaeth yn berthnasol wrth ystyried a yw’r person yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth neu, yn ôl y digwydd, yn unigolyn cyfrifol.
(6)
Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person wedi bod yn gyfrifol am gamymddwyn neu gamreoli, neu wedi cyfrannu ato neu wedi ei hwyluso, wrth ddarparu—
(a)
gwasanaeth rheoleiddiedig neu wasanaeth a ddarperir y tu allan i Gymru a fyddai’n wasanaeth rheoleiddiedig pe bai’n cael ei ddarparu yng Nghymru;
(b)
gwasanaeth a fyddai wedi dod o fewn paragraff (a) pe bai’r system reoleiddiol sydd wedi ei sefydlu gan y Rhan hon wedi bod yn weithredol ar yr adeg pan oedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu.
(7)
Wrth roi sylw i dystiolaeth o fewn is-adran (6), rhaid i Weinidogion Cymru, ymhlith pethau eraill, ystyried—
(a)
pa mor ddifrifol yw’r camymddwyn neu’r camreoli ac am ba hyd y bu’n digwydd;
(b)
niwed a achoswyd i unrhyw berson, neu unrhyw dystiolaeth o fwriad i achosi niwed;
(c)
unrhyw fantais ariannol a enillwyd gan y person;
(d)
unrhyw gamau a gymerwyd gan y person i unioni’r camymddwyn neu’r camreoli.
(8)
Mae tystiolaeth o fewn yr is-adran hon os yw’n dangos bod y person wedi methu’n flaenorol â chydymffurfio—
(a)
ag ymgymeriad a roddir o dan adran 7(1)(a)(ii) neu 11(3)(a)(ii),
(b)
ag amod a osodir o dan y Rhan hon, neu
(c)
â gofyniad a osodir gan reoliadau o dan adran 27(1) neu 28(1).
(9)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon i amrywio’r dystiolaeth y mae rhaid iddynt roi sylw iddi.