RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Ymdrin â cheisiadau ar gyfer cofrestru neu adnewyddu

89Hysbysiad o benderfyniadau mewn cysylltiad â chofrestru neu adnewyddu

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo’r cofrestrydd yn penderfynu—

(a)

caniatáu cais i gofrestru, neu

(b)

caniatáu cais i adnewyddu cofrestriad.

(2)

Rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad o’r penderfyniad i’r person y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

(3)

Mae is-adran (4) yn gymwys pan fo’r cofrestrydd yn penderfynu—

(a)

gwrthod cais i gofrestru, neu

(b)

gwrthod cais i adnewyddu cofrestriad person.

(4)

Rhaid i’r cofrestrydd roi i’r person y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef hysbysiad—

(a)

o’r penderfyniad,

(b)

o’r rhesymau dros y penderfyniad, ac

(c)

o’r hawl i apelio o dan adran 101.

F1(5)

Pan fo cais i gofrestru o dan adran 82 wedi ei gyflwyno gan ymgeisydd gwladwriaeth benodedig, rhaid i’r cofrestrydd roi hysbysiad o’r penderfyniad o dan is-adran (2) neu (4) i’r person y mae’r cais yn ymwneud ag ef heb fod yn hwyrach na phedwar mis ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd y cais cyflawn.

(6)

Pan fo’r cofrestrydd yn methu â rhoi hysbysiad o benderfyniad o fewn y cyfnod amser a bennir yn is-adran (5), mae’r methiant hwnnw i’w drin at ddibenion Rhannau 3, 4 ac 8 fel penderfyniad gan y cofrestrydd.