RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Ymdrin â cheisiadau ar gyfer cofrestru neu adnewyddu
88Rheolau ynghylch ceisiadau ar gyfer cofrestru neu adnewyddu
(1)
Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r cofrestrydd i ddyfarnu o dan adran 83 a oes amhariad ar addasrwydd person i ymarfer ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau yn adran 117(1).
(2)
Caiff rheolau o dan is-adran (1), yn benodol—
(a)
ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud cais i gofrestru ddarparu gwybodaeth at ddiben dyfarniad y cofrestrydd;
(b)
darparu bod yr wybodaeth i’w darparu i’r cofrestrydd drwy ddatganiad ysgrifenedig gan y person sy’n gwneud y cais.
(3)
Rhaid i GCC hefyd drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan y cofrestrydd wrth ymdrin—
(a)
â cheisiadau ar gyfer cofrestru mewn rhan o’r gofrestr, a
(b)
â cheisiadau ar gyfer adnewyddu, pan fo rheolau o dan adran 86 yn darparu ar gyfer adnewyddu cofnod yn y gofrestr.
(4)
Caiff rheolau o dan is-adran (3), yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
y cyfnod y mae rhaid cydnabod cais i gofrestru neu i adnewyddu cofrestriad ynddo;
(b)
yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu gan y cofrestrydd mewn ymateb i gais;
(c)
y cyfnod y rhoddir hysbysiad o dan adran 89 ynddo;
(d)
yr wybodaeth y caniateir i’r cofrestrydd ei gwneud yn ofynnol ei fod yn ei chael i ategu cais a’r weithdrefn sydd i’w dilyn gan y cofrestrydd wrth ofyn am yr wybodaeth honno;
(e)
yr amgylchiadau pan gaiff y cofrestrydd ddyfarnu nad yw cais wedi bod yn llwyddiannus ar y sail bod y person a wnaeth y cais wedi methu â darparu’r wybodaeth a oedd yn ofynnol gan y cofrestrydd o fewn cyfnod a bennir gan y cofrestrydd;
(f)
yr amgylchiadau pan gaiff ffi ar gyfer cofrestru ac, os yw’n berthnasol, ar gyfer adnewyddu, ei chodi a’r amgylchiadau pan ganiateir i ffi o’r fath gael ei lleihau neu ei hepgor.