xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Ymdrin â cheisiadau ar gyfer cofrestru neu adnewydduLL+C

88Rheolau ynghylch ceisiadau ar gyfer cofrestru neu adnewydduLL+C

(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch sut y mae’r cofrestrydd i ddyfarnu o dan adran 83 a oes amhariad ar addasrwydd person i ymarfer ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau yn adran 117(1).

(2)Caiff rheolau o dan is-adran (1), yn benodol—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gwneud cais i gofrestru ddarparu gwybodaeth at ddiben dyfarniad y cofrestrydd;

(b)darparu bod yr wybodaeth i’w darparu i’r cofrestrydd drwy ddatganiad ysgrifenedig gan y person sy’n gwneud y cais.

(3)Rhaid i GCC hefyd drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn gan y cofrestrydd wrth ymdrin—

(a)â cheisiadau ar gyfer cofrestru mewn rhan o’r gofrestr, a

(b)â cheisiadau ar gyfer adnewyddu, pan fo rheolau o dan adran 86 yn darparu ar gyfer adnewyddu cofnod yn y gofrestr.

(4)Caiff rheolau o dan is-adran (3), yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y cyfnod y mae rhaid cydnabod cais i gofrestru neu i adnewyddu cofrestriad ynddo;

(b)yr wybodaeth y mae rhaid ei darparu gan y cofrestrydd mewn ymateb i gais;

(c)y cyfnod y rhoddir hysbysiad o dan adran 89 ynddo;

(d)yr wybodaeth y caniateir i’r cofrestrydd ei gwneud yn ofynnol ei fod yn ei chael i ategu cais a’r weithdrefn sydd i’w dilyn gan y cofrestrydd wrth ofyn am yr wybodaeth honno;

(e)yr amgylchiadau pan gaiff y cofrestrydd ddyfarnu nad yw cais wedi bod yn llwyddiannus ar y sail bod y person a wnaeth y cais wedi methu â darparu’r wybodaeth a oedd yn ofynnol gan y cofrestrydd o fewn cyfnod a bennir gan y cofrestrydd;

(f)yr amgylchiadau pan gaiff ffi ar gyfer cofrestru ac, os yw’n berthnasol, ar gyfer adnewyddu, ei chodi a’r amgylchiadau pan ganiateir i ffi o’r fath gael ei lleihau neu ei hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 88 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 88 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)