(1)Caiff y cofrestrydd ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd gwladwriaeth benodedig sefyll prawf gallu, wedi ei safoni neu fel arall, neu gwblhau cyfnod ymaddasu—
(a)pan fo gwahaniaeth sylweddol rhwng cymwysterau proffesiynol yr ymgeisydd a’r wybodaeth hanfodol neu’r sgiliau hanfodol sy’n ofynnol er mwyn ymarfer gwaith personau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi, neu
(b)pan fo gwaith personau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi yn cynnwys un neu ragor o weithgareddau proffesiynol sy’n cwmpasu materion sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gwmpesir gan gymwysterau proffesiynol yr ymgeisydd.
(2)Rhaid i’r cofrestrydd ystyried a yw unrhyw ofyniad i sefyll prawf gallu neu i gwblhau cyfnod ymaddasu yn gymesur â’r gwahaniaeth y ceisir ei ddatrys.
(3)Os yw’r ymgeisydd yn gofyn iddo wneud hynny, rhaid i’r cofrestrydd, i’r graddau y bo’n bosibl, ddarparu ei resymau yn ysgrifenedig dros ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd sefyll prawf gallu neu i gwblhau cyfnod ymaddasu.
(4)Pan fo’r cofrestrydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd ymgymryd â phrawf gallu, rhaid i’r cofrestrydd sicrhau bod profion o’r fath yn cael eu hamserlennu ag amlder rhesymol ac o leiaf unwaith y flwyddyn.]
Diwygiadau Testunol